Dear First Minister, will you prioritise children and young people with cancer in Wales

Logos of children and young people's cancer charities in Wales

(EN) A new Welsh Government means a new opportunity to prioritise the needs of children and young people with cancer, and to build a better future of care and support.  

In their manifesto, we were pleased to see Plaid Cymru commit to a new Cancer Plan for Wales, as well as a travel fund for people travelling to specialist treatment, like children and young people. 

Having cancer at a young age is different and the impact is unique, and long lasting. And we hear the challenges that children, young people and families experience loud and clear every day.  

That’s why we’re standing together to ask our new First Minister and Health Minister to re-affirm their commitment to children and young people with cancer and to work with us, and those we support, to build a better system of care and support. 

Will you stand with us and show your support for children and young people with cancer in Wales by adding your name to our letter? 

(CY) Mae Llywodraeth newydd i Gymru yn golygu cyfle newydd i flaenoriaethu anghenion plant a phobl ifanc sydd â chanser, ac i adeiladu gwell dyfodol o ofal a chymorth.  

Roeddem yn falch o weld Plaid Cymru yn ymrwymo i Gynllun Canser newydd i Gymru yn ei maniffesto, yn ogystal ag i gronfa deithio ar gyfer pobl sy'n teithio i gael triniaeth arbenigol, megis plant a phobl ifanc. 

Mae cael canser yn ifanc yn wahanol, ac mae'r effaith yn unigryw ac yn para'n hir. Ac rydym yn clywed yr heriau y mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yn eu profi yn glir bob dydd.  

Dyna pam rydym yn sefyll gyda'n gilydd i ofyn i'n Prif Weinidog a'n Gweinidog Iechyd newydd ailddatgan eu hymrwymiad i blant a phobl ifanc â chanser a gweithio gyda ni, a'r rheiny rydym yn eu cefnogi, i adeiladu gwell system o ofal a chymorth. 

A wnewch chi sefyll gyda ni a dangos eich cefnogaeth i blant a phobl ifanc â chanser yng Nghymru trwy ychwanegu eich enw at ein llythyr? 

  • Click here to read our letter to the First Minister and Health Minister

    (EN) Dear First Minister and Cabinet Minister,

    Congratulations on your election.

    We know that as your time in government begins, you’ll have many priorities to address, but together as leading cancer charities and alongside our supporters, we’re asking that you stand with us and prioritise the needs of the around 180 children and young people (under 25) diagnosed with cancer every year in Wales, and many more living with the long-term, life changing impacts.

    Having cancer at a young age is different than as an adult. It’s less common and treated differently. Treatment can last multiple years requiring long-term support, and usually, treatment is given in specialist centres, far from home, and which in many cases requires receiving treatment outside of Wales.

    The impact on children, young people and their families is unique and touches every aspect of their lives, from missing education or giving up work to social lives put on pause. It’s well evidenced that they experience poorer quality of life, and survivors are more likely to suffer chronic illness, mental health problems, unemployment and relationship difficulties - yet after treatment ends, support can disappear leaving young cancer patients and families feeling lost and alone.

    Emotional and mental wellbeing can really suffer – not just during treatment but post-treatment and long-term. Cancer impacts the entire family, and its essential they all get the support they need to navigate the most challenging time in their lives.

    The additional costs of cancer quickly add up to an average £700 extra every month when household income is dwindling, with the biggest cost simply for travelling to treatment, causing long-term financial difficulties.

    They also often face unacceptable delays in diagnosis, and difficulties accessing clinical trials, which are key to improving outcomes. But with limited participation in clinical research, it remains challenging to gather enough data that could be pivotal in developing more effective and tailored therapeutic approaches.

    The list goes on, and we hear this loud and clear every day.

    Wales is now the only UK nation that doesn’t have a long-term cancer strategy, and through the Wales Cancer Alliance, we’re calling for this to change. So, we’re really pleased that your manifesto commits to a new Cancer Plan for Wales, starting this work in the first 100 days. We hope you’ll work with us, and in co-production with children, young people and families, to ensure this meets their needs too.

    Your commitment to providing funding for travel to access specialist treatment is also vital. Children and young people travel twice as far and spend twice as much as adults. Those in Wales travel furthest and spend the most in the UK just to get to their treatment. By its nature they’re travelling for specialist treatment - outside of Wales, for those from North Wales and for all where treatment isn’t available in Wales, but also long distances within Wales to the only specialist centre in Cardiff. Support currently relies on charities who do all they can to try and meet these costs, but Welsh Government support is urgently needed, and we hope you will look to support all children, young people and families with travel costs.

    For too long, children and young people have been overlooked and undervalued in the national conversation on cancer, but now we have an unmissable opportunity to change this. None of us can do it alone - we need a collective approach and for everyone to play their part, so we can make ground-breaking change.

    Together, we’re ready to work with you to make it happen, and ensure children and young people with cancer get the attention they need and deserve, to truly transform the landscape of care and support and improve experiences and outcomes for all.

    We look forward to working with you.

    With best wishes,

    (CY) Annwyl Brif Weinidog a Gweinidog y Cabinet,

    Llongyfarchiadau ar gael eich ethol.

    Wrth i'ch cyfnod yn y llywodraeth ddechrau, gwyddom y bydd gennych lawer o flaenoriaethau i fynd i'r afael â nhw, ond gyda'n gilydd fel elusennau canser blaenllaw ac ochr yn ochr â'n cefnogwyr, gofynnwn i chi sefyll gyda ni a blaenoriaethu anghenion y tua 180 o blant a phobl ifanc (dan 25 oed) sy'n cael diagnosis o ganser bob blwyddyn yng Nghymru, a'r nifer mawr sy'n byw â'r effeithiau hirdymor a fydd yn newid eu bywydau.

    Mae cael canser yn ifanc yn wahanol i gael canser pan ydych yn oedolyn. Mae'n llai cyffredin ac yn cael ei drin yn wahanol. Gall triniaeth bara sawl blwyddyn gan olygu bod angen cymorth hirdymor, ac fel arfer, rhoddir triniaeth mewn canolfannau arbenigol, ymhell o gartref. Mewn nifer o achosion, mae hyn yn golygu ei bod yn ofynnol cael triniaeth y tu allan i Gymru.

    Mae'r effaith ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn unigryw ac yn cyffwrdd â phob agwedd ar eu bywydau, o golli addysg neu roi'r gorau i waith, i orfod rhoi'r gorau dros dro i fywydau cymdeithasol. Mae yna dystiolaeth dda eu bod yn profi ansawdd bywyd gwaeth, ac mae goroeswyr yn fwy tebygol o ddioddef o salwch cronig, problemau iechyd meddwl, diweithdra, ac anawsterau o ran perthnasoedd; ac eto, ar ôl i'r driniaeth ddod i ben gall y cymorth ddiflannu, gan adael cleifion canser ifanc a'u teuluoedd yn teimlo ar goll ac ar eu pen eu hunain.

    Gall llesiant emosiynol a meddyliol ddioddef yn arw – nid yn unig yn ystod y driniaeth ond ar ôl y driniaeth ac yn y tymor hir. Mae canser yn effeithio ar y teulu cyfan, ac mae'n hanfodol bod pawb yn cael y cymorth y mae arnynt ei angen i lywio'r cyfnod mwyaf heriol yn eu bywydau.

    Mae costau ychwanegol canser yn cynyddu’n gyflym i tua £700 ychwanegol bob mis, a hynny pan fo incwm yr aelwyd yn lleihau, gyda’r gost fwyaf yn gysylltiedig â theithio i gael triniaeth, gan achosi anawsterau ariannol hirdymor.

    Maent hefyd yn aml yn wynebu oedi annerbyniol cyn cael diagnosis, ynghyd ag anawsterau o ran cael mynediad i dreialon clinigol, sy'n allweddol i wella canlyniadau. Ond gyda chyfranogiad cyfyngedig mewn ymchwil glinigol, mae'n parhau i fod yn heriol casglu digon o ddata a allai fod yn allweddol wrth ddatblygu dulliau therapiwtig mwy effeithiol ac wedi'u teilwra.

    Mae'r rhestr yn ddiddiwedd, ac rydym yn clywed hyn yn glir bob dydd.

    Erbyn hyn, Cymru yw'r unig genedl yn y DU sydd heb strategaeth canser hirdymor, a thrwy Gynghrair Canser Cymru, rydym yn galw am i hyn newid. Felly, rydym yn falch iawn bod eich maniffesto yn ymrwymo i Gynllun Canser newydd i Gymru, gan ddechrau'r gwaith hwn yn y 100 diwrnod cyntaf. Gobeithiwn y byddwch yn gweithio gyda ni, ac yn cydgynhyrchu â phlant, pobl ifanc a theuluoedd, i sicrhau bod hyn yn diwallu eu hanghenion nhw hefyd.

    Mae eich ymrwymiad i ddarparu cyllid ar gyfer teithio i gael mynediad at driniaeth arbenigol hefyd yn hanfodol. Mae plant a phobl ifanc yn teithio ddwywaith mor bell ac yn gwario ddwywaith cymaint ag oedolion. Y rheiny yng Nghymru sy'n teithio bellaf ac yn gwario fwyaf yn y DU, a hynny dim ond i gael eu triniaeth. Maent yn teithio i gael triniaeth arbenigol ei natur – y tu allan i Gymru, i'r rheiny yng Ngogledd Cymru a phawb lle nad oes triniaeth ar gael yng Nghymru, ond hefyd pellteroedd maith yng Nghymru i'r unig ganolfan arbenigol, sydd yng Nghaerdydd. Ar hyn o bryd mae cymorth yn dibynnu ar elusennau, sy'n gwneud popeth o fewn eu gallu i geisio talu'r costau hyn, ond mae angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar frys, a gobeithiwn y byddwch yn ystyried cefnogi pob plentyn, person ifanc a theulu gyda chostau teithio.

    Am ormod o amser, mae plant a phobl ifanc wedi cael eu hanwybyddu a'u tanbrisio yn y sgwrs genedlaethol am ganser, ond 'nawr mae gennym gyfle na ellir ei golli i newid hyn. Ni all yr un ohonom wneud hyn ar ein pen ein hunain – mae arnom angen dull cyfunol ac mae angen i bawb chwarae eu rhan, fel y gallwn wneud newid sy'n torri tir newydd.

    Gyda'n gilydd, rydym yn barod i weithio gyda chi i wireddu hyn, a sicrhau bod plant a phobl ifanc â chanser yn cael y sylw y mae arnynt ei angen ac y maent yn ei haeddu, i wir drawsnewid tirwedd gofal a chymorth a gwella profiadau a chanlyniadau i bawb.

    Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi.

    Cofion gorau,

  • Alexandra 17.06.2026 20:40
  • See a bigger investment in children’s cancer treatment. We are miles behind other countries for treatments Callum 17.06.2026 20:29
  • Laura 17.06.2026 20:25
  • Helen 17.06.2026 20:20
  • More funding x Susan 17.06.2026 20:17
  • Financial support. Better access to psychology/counselling services for the patient and immediate family members during and post treatment. BMT available in Wales - 100 days minimum is a long time to separate patients/siblings/parents from their immediate family. Angela 17.06.2026 20:04